Teitl y ddeiseb: Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
Testun y ddeiseb: Mae nyrsys ledled Cymru yn brin o 1,719 o aelodau staff medrus iawn sy'n achub bywydau. Mae hyn yn golygu bod staff nyrsio yn rhoi 34,284 o oriau ychwanegol i GIG Cymru bob wythnos – ac nid yw'n ddigon o hyd. Mae ymchwil yn dangos, os oes llai o nyrsys, mae cleifion 26 y cant yn fwy tebygol o farw, ac, yn gyffredinol, mae hyn yn codi i 29 y cant yn dilyn cyfnodau cymhleth o aros yn yr ysbyty. Dylai Llywodraeth Cymru ehangu Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i ddarparu’r tîm llawn o nyrsys sydd eu hangen yn daer ar y cyhoedd yng Nghymru. Mae adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru gymryd pob cam rhesymol i gynnal lefel benodedig o staff nyrsio. Lefelau staff nyrsio yw nifer y nyrsys, a’u cymysgedd sgiliau, sydd eu hangen i ddarparu gofal sensitif i gleifion. At hynny, rhaid i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau roi gwybod i’r cyhoedd am y lefelau staff nyrsio ar unrhyw ward sy’n cael ei gynnwys o dan Adran 25B. Pan basiwyd y gyfraith am y tro cyntaf, roedd Adran 25B yn berthnasol i wardiau oedolion meddygol a llawfeddygol acíwt yn unig. Ar 1 Hydref 2021, cafodd hyn ei ymestyn i wardiau plant. Rydym am iddo fod yn berthnasol ym mhob lleoliad lle darperir gofal nyrsio, gan ddechrau gyda wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl a nyrsio cymunedol. |
Yn 2016, pasiodd Cymru y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru). Rhoddodd y Bil ddyletswydd ar fyrddau iechyd yng Nghymru i gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio priodol ar wardiau acíwt i oedolion mewn ysbytai i ddechrau. Drwy gydol y broses o ddatblygu’r ddeddfwriaeth, a’i hynt drwy’r Senedd, roedd bwriad clir i ymestyn hyn i leoliadau gofal iechyd eraill yn y dyfodol.
Mewnosododd y Ddeddf nifer o adrannau newydd yn Neddf GIG Cymru (Cymru) 2006 (cyfeirir at y prif ddyletswyddau’n aml yn ôl rhif yr adrannau hyn):
§ 25A Dyletswydd gyffredinol ar fyrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG i roi sylw i'r pwysigrwydd o sicrhau lefel briodol o staff nyrsio ym mhob lleoliad. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan fo byrddau iechyd yn comisiynu gwasanaethau gan drydydd parti. Daeth y ddyletswydd hon i rym ym mis Ebrill 2017.
§ 25B Dyletswydd i gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio mewn lleoliadau penodedig (diffinnir y ‘lefel staff nyrsio’ fel “nifer y nyrsys sy’n briodol i ddarparu gofal i gleifion sy’n bodloni’r holl ofynion rhesymol yn y sefyllfa honno”). Daeth hyn i rym yng nghyd-destun wardiau meddygol a llawfeddygol aciwt i oedolion sy’n gleifion mewnol ym mis Ebrill 2018. Ers mis Hydref 2021, mae hefyd wedi bod yn berthnasol i wardiau pediatrig i gleifion mewnol. Mae’r adran hon hefyd darparu ar gyfer ymestyn y ddylestwydd i leoliadau eraill.
§ 25C Mae’r adran hon yn nodi sut y dylid cyfrifo lefelau staff nyrsio.
§ 25D Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol i fyrddau/ymddiriedolaethau iechyd ar eu dyletswyddau o dan 25B a 25C.
§ 25E Mae’n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd (ac ymddiriedolaethau pan fo’n berthnasol) baratoi adroddiad i Lywodraeth Cymru yn dangos sut y maent yn cydymffurfio ag adran 25B ar ôl cyfnod o dair blynedd. Rhaid i Lywodraeth Cymru, wedyn, gyhoeddi adroddiad cryno. Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf, ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2018 a mis Ebrill 2021, ym mis Rhagfyr 2021.
Mae’r ddeiseb yn ymdrin yn benodol ag adran 25B - y ddyletswydd i gyfrifo a chynnal y lefelau staff nyrsio mewn lleoliadau penodedig. Mae adran 25C yn bwysig yma, gan fod hon yn nodi sut mae’n rhaid mynd at i gyfrifo lefelau staff nyrsio.
Un o elfennau allweddol y dull 'trionglog' a ddisgrifir yn 25C yw’r defnydd o adnoddau cynllunio'r gweithlu, seiliedig ar dystiolaeth, i amcangyfrif y gymhareb briodol rhwng nyrsys a chleifion. Yr elfennau eraill yw'r defnydd o farn broffesiynol, a dangosyddion sy’n sensitif i'r gofal a roddir gan nyrs (fel codymau sy'n arwain at niwed, briwiau pwyso, a chamgymeriadau wrth roi meddyginiaeth).
Ar ddechrau’r Bumed Senedd, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o nyrsys yn gweithio mewn mwy o leoliadau, drwy ymestyn y gyfraith yn ymwneud â lefelau staff nyrsys; Mae Rhaglen Staffio Nyrsio Cymru Gyfan yn cynnwys pum ffrwd waith:
§ wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion sy’n gleifion mewnol - mae’r ddyletswydd i gyfrifo/cynnal lefelau staff nyrsio yn berthnasol i wardiau aciwt i oedolion ers mis Ebrill 2018;
§ wardiau pediatrig i gleifion mewnol - mae’r ddyletswydd i gyfrifo/cynnal lefelau staff nyrsio yn berthnasol i wardiau pediatrig ers mis Hydref 2021;
§ wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl – mae’r gwaith yn parhau;
§ ymwelwyr iechyd – mae’r gwaith yn parhau;
§ nyrsys ardal – mae’r gwaith yn parhau.
Yn dilyn ei ymchwiliad i nyrsio cymunedol yn 2019, galwodd Pwyllgor Iechyd y Bumed Senedd ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth i ymestyn y Ddeddf i bob lleoliad. GwrthododdLlywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn gan ddweud:
Mae gwahaniaethau sylfaenol sylweddol a niferus rhwng y gwahanol leoliadau y mae nyrsys yn darparu gofal ynddynt yng Nghymru. (…). Mae'n llawer rhy gynnar i ddechrau deall lefel y cymhlethdod o ran yr amrywioldeb hwnnw mewn lleoliadau, a bydd angen i'r Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan wneud gwaith mapio helaeth cyn y gellir ystyried strategaeth genedlaethol. Mae Rheolwr y Rhaglen wedi dechrau ar gamau cynnar y gwaith hwnnw.
Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd yr RCN ei adroddiad ei hun ar y weithredu’r ddeddfwriaeth. Daeth hwn i’r casgliadau a ganlyn:
§ Mae Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 wedi gwella’r gofal a gaiff cleifion ac wedi cynyddu nifer y staff nyrsio ar wardiau sydd wedi’u cynnwys yn Adran 25B.
§ Mae lefel aciwtedd cleifion wedi cynyddu a, chan hynny, mae angen rhagor o nyrsys cofrestredig a gweithwyr cymorth gofal iechyd yng Nghymru i ofalu am gleifion.
§ Roedd yr holl fyrddau iechyd yn barod i Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio gael ei hymestyn i gleifion mewnol pediatrig ar 1 Hydref 2021.
§ Yr her fwyaf yw bod llawer mwy o nyrsys yn gadael y GIG na nifer y nyrsys sy’n cymhwyso, neu’n cael eu recriwtio’n rhyngwladol, sy’n gallu cymryd eu lle.
Wrth graffu ar y Bil, y rheswm mwyaf cyffredin, o bell ffordd, a gynigiwyd fel y prif rwystr rhag gweithredu’r ddeddfwriaeth oedd diffyg capasiti yn y gweithlu presennol.
Yn 2017, ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, “It is well known that the Act is being implemented at a time of global shortage in nurse staff”. Esboniodd fod Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) wedi’i chynllunio i gynnwys cyfnod rhagarweiniol hir i alluogi byrddau iechyd i baratoi ar gyfer y goblygiadau o ran cynllunio’r gweithlu, a thynnodd sylw at y gwaith a oedd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â phroblemau recriwtio nyrsys, a sut roedd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant nyrsio.
Ym mis Medi 2020, dywedodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd fod pandemig COVID-19 wedi rhoi cryn dipyn o bwysau ychwanegol ar y gweithlu nyrsio, ac wedi effeithio hefyd ar y rhaglen waith i ymestyn y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio.
Mae adroddiad data blynyddol diweddaraf y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) (a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022) yn dangos y bu cynnydd yn nifer y nyrsys, y bydwragedd a’r gweithwyr nyrsio cysylltiol sy’n ymuno â chofrestr yr NMC, ond y bu cynnydd hefyd yn y sy’n gadael. Roedd y prif resymau a roddwyd dros adael yn cynnwys pwysau gormodol, diwylliant gwael yn y gweithle, a phandemig COVID-19.
Yn ei llythyr at y Pwyllgor, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dweud bod “rhagosodiad teitl y ddeiseb yn ddiffygiol” a bod prinder “cyd-destun deddfwriaethol pwysig”.
mae’r Ddeddf yn dweud yn glir bod cael adnodd ar gyfer cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth yn elfen hanfodol ar gyfer cymhwyso adran 25B i unrhyw sefyllfa gofal benodol.
Mae’r canllawiau statudol yn diffinio adnodd o’r fath ymhellach fel adnodd sydd wedi ei dreialu mewn lleoliadau clinigol yng Nghymru gyda’r nod o gasglu tystiolaeth i ddangos i ba raddau y mae’n ddefnyddiol ac yn berthnasol. Mae creu sail dystiolaeth gadarn wedi rhoi hygrededd i’r Ddeddf, gan sicrhau bod y bwrdd yn clywed llais y nyrs ar y ward. Mae unrhyw alw i weithredu adran 25B o’r Ddeddf ar draws pob lleoliad clinigol yn anwybyddu’r daliad sylfaenol hwnnw yn y ddeddfwriaeth.
Dywed fod datblygu’r adnodd cynllunio gweithlu gofynnol ar gyfer wardiau pediatrig yn fater o adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes ar gyfer wardiau oedolion gan fod y wardiau hynny’n “gymharol debyg” i’r wardiau pediatrig.
Fodd bynnag, mae lleoliadau eraill sy’n sylweddol wahanol – er enghraifft lleoliadau gofal iechyd meddwl i gleifion mewnol neu leoliadau nyrsio cymunedol. Mae gan y lleoliadau hyn eu cymhlethdodau aml-broffesiynol penodol eu hunain, gan gynnwys natur amlddisgyblaethol y gofal a ddarperir ynddynt, y mae’n rhaid gweithio drwyddynt wrth ddatblygu adnoddau cynllunio gweithlu sy’n addas ar eu cyfer yn seiliedig ar y dystiolaeth.
Mae’r Gweinidog hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod prinder staff nyrsio yn broblem fyd-eang. Mae hi’n dweud bod nifer sylweddol o swyddi nyrsio gwag mewn byrddau iechyd a lleoliadau gofal ledled Cymru, ac na fyddai ymestyn adran 25B o’r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) yn ymdrin yn uniongyrchol â’r broblem hon.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |